Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Mai 2019
Amser: 09.00 - 10.12
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5475
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am farn y sefydliad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:
· Plant yng Nghymru i'w hysbysu ynghylch cynnig am gynllun gwisgoedd ysgol ail-law yng nghyd-destun y canllawiau y maent yn eu llunio mewn perthynas â chost diwrnod ysgol, ac i ofyn am eu barn ynghylch pa mor y graddau y gellid gweithredu’r cynllun; a
· Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn beth yw'r sefyllfa ynglŷn â pholisïau gwisg ysgol a ddefnyddir ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:
· Consortiwm Manwerthu Cymru i ofyn am eu barn mewn perthynas â'r materion a godwyd gan y ddeiseb, a gofyn am wybodaeth am y camau perthnasol sy'n cael eu cymryd gan ei aelodau; a
· y prif archfarchnadoedd i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y canlynol:
· y Gweinidog Addysg i drafod y pwyntiau ychwanegol a godwyd gan y deisebydd a gofyn:
o am wybodaeth bellach o ran sut y dylai disgyblion allu cael mynediad at wasanaethau cwnsela mewn ysgolion;
o sut mae iechyd meddwl a lles disgyblion yn cael ei gynnwys mewn hyfforddiant athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus; ac
o i gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff addysg iechyd meddwl ei chynnwys yn y cwricwlwm ABCh cyfredol;
· y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w hysbysu ynghylch y ddeiseb hon yng nghyd-destun eu gwaith craffu parhaus ar les emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc a'r cwricwlwm newydd;
· Prifysgolion Cymru sy'n darparu hyfforddiant athrawon i ofyn beth sydd wedi'i gynnwys yn eu rhaglenni hyfforddi sy'n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i rannu tystiolaeth y deisebydd gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi weithio gyda'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru i weithredu’n unol â'u hargymhellion. Wedi hynny, cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg er mwyn:
· gofyn am fanylion unrhyw ganfyddiadau o'i gwaith ymgysylltu gydag awdurdodau lleol ar y mater hwn;
· gofyn am unrhyw gasgliadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil yr adolygiad o'r Cod Derbyn i Ysgolion mewn perthynas â cheisiadau i ohirio mynediad i blant a aned yn yr haf; a
· gofyn pryd y bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Derbyn i Ysgolion yn dechrau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad yr Archwiliad Diogelwch Ffyrdd 36 mis cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ynghyd â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4, a chytunodd i drafod y ddwy ddeiseb eto ar 11 Mehefin o gofio cynnig y Prif Weinidog y byddai'n gallu cyhoeddi penderfyniad yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ynghyd â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4, a chytunodd i drafod y ddwy ddeiseb eto ar 11 Mehefin o gofio cynnig y Prif Weinidog y byddai'n gallu cyhoeddi penderfyniad yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Powys i ofyn am eu barn ar y ddeiseb a’r ddarpariaeth parcio yng Nghrucywel a'r cyffiniau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am ddiweddariad pellach ymhen chwe mis, neu'n gynt os bydd y sefyllfa'n newid.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i wahodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i fynychu sesiwn dystiolaeth gyda'r Pwyllgor yn y dyfodol i drafod hyn a sawl deiseb arall yn ymwneud â pholisi cynllunio.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n gyn-ddefnyddiwr gwasanaeth Families Need Fathers/Both Parents Matter Cymru ac mae wedi cyflogi'r prif ddeisebydd o'r blaen.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i dderbyn cynnig Cafcass Cymru o ddarparu copi o'i ganllawiau ymarfer yn dilyn ei lansio.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn ynghylch y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn:
· am ddiweddariad am ei fwriadau mewn perthynas ag argaeledd prostheteg chwaraeon yn y dyfodol,
· am ei amserlenni disgwyliedig ar gyfer ystyried achos busnes llawn ar y mater hwn, ac i ofyn am gopi o'r achos busnes ar ôl iddo gael ei gwblhau; ac
· a yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ymchwil i ddatblygiad neu addasrwydd argraffu 3D at y diben hwn, neu a yw wedi cefnogi ymchwil o’r fath.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn:
· gofyn am ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a Bwrdd Wroleg Cymru i sicrhau bod Canllaw terfynol NICE ar ganser y brostad yn cael ei weithredu ledled Cymru; a
· gofyn i ystyriaeth gael ei rhoi i'r ateb dros dro a gynigiwyd gan y deisebydd i alluogi cleifion i gael mynediad at gyfleusterau sganio preifat tra bod capasiti ac offer yn cael eu cronni yn y GIG.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rannu manylion am y ddeiseb a'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma, a gofyn a oes gan y Pwyllgor unrhyw gynlluniau i edrych ar y pwnc hwn.
Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae hi wedi bod yn rhan o'r diwydiant anifeiliaid anwes o'r blaen.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn pryd y bydd y broses o ddiweddaru’r codau ymarfer presennol ar gyfer lles anifeiliaid, a datblygu codau ymarfer newydd yn ôl y gofyn, wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu at WRAP Cymru i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; ac
· aros hyd nes cyhoeddi'r adroddiad gwerthuso ar yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol er Achub Bywydau i ofyn am ragor o wybodaeth ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu Cynllun Diogelwch Dŵr i Gymru a sut y gallai gefnogi datblygiad cyfleoedd nofio diogel yn yr awyr agored.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor bapur am gymhwystra ar gyfer llofnodi deisebau i'r Cynulliad. Mewn ymateb i rai pryderon a godwyd gyda'r Pwyllgor, trafododd yr Aelodau p’un a ddylai pobl sy'n byw y tu allan i Gymru barhau i allu llofnodi deisebau.
Penderfynodd y Pwyllgor beidio gosod unrhyw gyfyngiadau ar allu pobl i lofnodi deisebau, yng nghyd-destun newidiadau diweddar eraill a wnaed i'r rheolau sy'n ymwneud â chyflwyno deisebau a chasglu llofnodion.
Mewn perthynas â deisebau gyda dros 5000 o lofnodion, cytunodd yr Aelodau i ystyried nifer y llofnodion a gasglwyd yng Nghymru wrth benderfynu p’un a ddylid gofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.